Cyflwyniad

1.    Diben y papur hwn yw gosod allan tystiolaeth ysgrifenedig ar Rôl Mentrau Cymdeithasol yn Economi Cymru ar gyfer y Pwyllgor Menter a Busnes.

2.    Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw Cymru ffyniannus sy’n fwy cyfartal yn gymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu'r sector menter gymdeithasol, un o amcanion allweddol Rhaglen Lywodraethu LlC.

3.    Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan ganolfan Gydweithredol Cymru ym mis Gorffennaf 2013 yn datgan y canlynol am economi gydweithredol Cymru:

·                Mae yma 446 o fudiadau cydweithredol, sy’n cyfrif am gyfanswm trosiant blynyddol o £1.54 biliwn.  

·                Mae dros 725,000 yn aelodau o fudiadau cydweithredol yng Nghymru.

·                Mae cyrff cydweithredol yn cyflogi tua 11,000 o bobl yng Nghymru.

·                Mae deuddeg o 100 uchaf busnesau cydweithredol y DU wedi’u lleoli yng Nghymru, sy’n cyfrif am drosiant blynyddol o tua £280 miliwn[i]

 

4.    Yn ôl ymchwil gan Co-operatives UK, mae’r twf yn Economi Gydweithredol y DU wedi mynd y tu hwnt i dwf yn economi’r DU drwyddi draw yn gyson ers 2008[ii].  Mae ymchwil a wnaed gan Social Enterprise UK yn awgrymu fod Mentrau Cymdeithasol yn fwy tebygol o weithio yn y cymunedau mwyaf difreintiedig na Busnesau Bach a Chanolig traddodiadol[iii].

 

5.    Mae Cwmni Cydweithredol Cymru wrthi’n dadansoddi cyflwr y sector menter gymdeithasol yng Nghymru. Disgwylir y canlyniadau yn hydref 2014.

 

Y Datblygiadau Diweddaraf

6.    Yn 2012, sefydlais Gomisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru o dan Gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Davies. Cylch gwaith y Comisiwn oedd gwneud argymhellion ar dyfu a datblygu’r economi gydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru er mwyn creu swyddi a chyfoeth.

7.    Ar 21 Chwefror cyhoeddais Adroddiad Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru. Mae’r adroddiad yn cynnwys 25 o argymhellion mewn nifer o feysydd yn cynnwys cymorth busnes, addysg ar gyfer cydweithredu, caffael, cyngor buddsoddi a thir ac asedau.

 

8.    Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cyflwyno achos cryf dros gael Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol yn chwarae llawer mwy o ran yn economi a bywyd Cymru.

9.    Mae’r adroddiad yn awr yn mynd trwy gyfnod o ymgynghori ar ei argymhellion.

10. Yn dilyn adolygiad gwerth am arian o Glymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru (WSEC) ym mis Hydref 2012, cytunais i atal y cyllid a roddwyd i WSEC y tu hwnt i ymrwymiad 2012/13. Gofynnais i Robert Lloyd Griffiths, Cadeirydd Bwrdd Strategol Busnes Cymru a Chyfarwyddwr (Cymru) Sefydliad y Cyfarwyddwyr, i gynnal adolygiad o’r gefnogaeth a oedd angen ar y Sector a sut byddai rôl ac egwyddorion wedi’u diweddaru ar gyfer swyddogaeth newydd yn edrych a lle fyddai cartref rôl o’r fath. Mae Robert wedi ystyried canfyddiadau’r Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol a bydd ei gyngor yn cael ei adrodd i mi ochr yn ochr â chasgliad yr ymgynghoriad ar argymhellion Adroddiad y Comisiwn.

Mynediad i Gefnogaeth

11.Gall mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol gael mynediad at ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael ac yn cael ei hwyluso gan LlC. Yn ogystal â chyngor busnes cyffredinol drwy wasanaeth rhwydwaith Busnes Cymru, gall mentrau cymdeithasol geisio cyngor a gwasanaethau arbenigol gan gyrff arbenigol, megis Canolfan Gydweithredol Cymru. 

 

12. Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi oddeutu £500,000 y flwyddyn i gyrff arbenigol sy’n cefnogi mentrau cymdeithasol. Gall mentrau cymdeithasol gael mynediad hefyd at rwydwaith gwasanaeth Busnes Cymru, sy’n rhoi cefnogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol i fusnesau.  

Cefnogaeth Ariannol

13. Gall Mentrau Cymdeithasol gael mynediad at gynlluniau ariannol, fel, Cronfa Twf Economaidd Cymru, Cyllid Ad-daladwy, Cronfa SME Cymru, a bu rhai yn llwyddiannus. Mae gan y Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau a sefydlwyd yn 2012 gronfa o £1 miliwn sy’n cefnogi mentrau cymdeithasol yn uniongyrchol. Caiff y gronfa ei gweinyddu ar ran Cyllid Cymru gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo ac Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro, sy’n cynrychioli  Undebau Credyd sy’n rhan o Gymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL).

14. O safbwynt monitro, mae unrhyw gymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru yn destun telerau ac amodau a chaiff ei fonitro’n ofalus i sicrhau gwerth am arian.

Cyflawni Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

15. Mae rhoi gwasanaethau cyhoeddus i gwmnïau cydfuddiannol wedi cael ei ystyried gan Gomisiwn Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru.

16. Lluniwyd ein gwefan GwerthwchiGymru / Sell2Wales i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cyrchu’r sector cyhoeddus a datblygu’r gadwyn gyflenwi. Llwyddodd y safle i ddwyn ynghyd cyflenwyr busnes a phrynwyr sector cyhoeddus Cymru, sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol.



[i] ‘Wedi’i dyfu gartref: Yr Economi Gydweithredol yng Nghymru 2013’: Canolfan Gydweithredol Cymru (T4) http://www.walescooperative.org/index.php?cID=830&cType=document

[ii] ‘Homegrown: The UK Co-operative Economy 2013’: Co-operatives UK (P12) http://www.uk.coop/economy2013

 

[iii] “Mae 38% o’r holl fentrau cymdeithasol yn gweithio yn yr 20% cymuned mwayf difreintiedig yn y DU, o’i gymharu â 12% o SMEs traddodiadol”,  ‘The People’s Business: State of Social Enterprise Survey 2013’ (P7), Social Enterprise UK, 2013 http://www.socialenterprise.org.uk/advice-support/resources/the-people-business